Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Cynhyrchwyr Gwin y Deyrnas Unedig

Gwybodaeth am Gynhyrchwyr Gwin y Deyrnas Unedig: pam fod angen eich data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth yr ydym ni'n ei chasglu? 

Rydym ni'n casglu enw eich busnes, enw'r cwmni, enw cyswllt a chyfeiriad post.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion ein cronfa ddata Safonau Gwin. Rydym ni'n cofrestru busnes gwin ac yn rhoi rhif cofrestru'r Bwrdd Safonau Gwin i'r busnes hwnnw. Rydym ni hefyd yn casglu'r wybodaeth hon i gasglu gwybodaeth cynhyrchu flynyddol. Gwnawn hyn yn unol â pherfformiad ein dyletswyddau statudol fel rhan o'n tasg gyhoeddus. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Mae darparu'r wybodaeth hon yn ofyniad statudol a gallai methu â darparu'r wybodaeth arwain at beidio â chwblhau'r gwybodaeth gynhyrchu neu beidio â chofrestru busnes.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 5 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â'r Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Datblygu Gwledig (DEFRA), sef arweinydd polisi gwin. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Yn ogystal, rydym ni'n defnyddio neu'n gweithio â chontractwyr a darparwyr gwasanaethau trydydd parti eraill, fel darparwyr gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth, a fydd yn prosesu eich data personol ar ein rhan. Y trydydd partïon hyn yw ein proseswyr data a dim ond ar ôl cael cyfarwyddyd gennym ni y gallant brosesu eich data personol, neu gytundeb at ddiben penodol i'n galluogi i gynnal, gwella a darparu ein gwasanaethau er mwyn cyflawni ein tasg gyhoeddus. 

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).


Ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB yw Arweinydd y Tîm Data, Llywodraethu Gwybodaeth a Diogelwch. Gellir cysylltu â'r Swyddog drwy anfon e-bost at y cyfeiriad isod.