Sefydliadau a gaiff eu cymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
Mae'r sefydliadau canlynol yn gofyn am reolaeth milfeddygol a rhaid i ni eu cymeradwyo cyn iddynt ddechrau masnachu:
- lladd-dai
- ffatrïoedd torri
- sefydliadau trin helgig
- marchnadoedd cyfanwerthu cig
Bydd angen i chi wneud cais i gymeradwyo sefydliad bwyd os rydych chi'n berchen ar:
- sefydliad cig
- sefydliad pysgod a physgod cregyn
- sefydliad cynnyrch llaeth
- sefydliad cynnyrch anifeiliaid
Gwneud cais am gymeradwyaeth
Ewch ati i lenwi’r ffurflen gais berthnasol a'i hanfon at:
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Tîm Cymeradwyo
Ystafell 112, Kings Pool
Peasholme Green
Caerefrog YO1 7PR
Pan ddaw eich cais i mewn, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn cysylltu â chi o fewn pythefnos i drefnu ymweliad i gynnal asesiad.
Gwneud cais am weithgareddau ychwanegol
Os ydych chi'n sefydliad cig sydd wedi'i gymeradwyo eisoes ac yn dymuno gwneud cais am weithgareddau neu rywogaethau ychwanegol, llenwch y ffurflen hon a'i hanfon dros e-bost at approvals@food.gov.uk
Ymweliadau cynghori
Gall darpar weithredwyr busnesau bwyd sy'n dymuno cael cymeradwyaeth ar gyfer eu sefydliadau ofyn am ymweliad cynghori. Nod ymweliadau cynghori yw helpu gweithredwr y busnes bwyd i nodi'r gofynion lles a hylendid a allai fod yn berthnasol i'w gweithgareddau cymeradwyo arfaethedig. Ymhlith y meysydd cyngor mae strwythur adeiladau, offer a chyfleusterau, ystyriaethau hylendid gweithredol a HACCP, arferion da, rheoli cofnodion a gweithdrefnau gweithredu safonol yn ogystal â lles anifeiliaid. Codir ffi benodol am ymweliadau cynghori sy'n daladwy cyn yr ymweliad. Y ffi ar gyfer y flwyddyn ariannol Ebrill 2019 - Mawrth 2020 yw £362.88 gan gynnwys TAW. Ni ellir ad-dalu'r ffi hon o gwbl.
I ofyn am ymweliad cynghori, bydd angen i chi anfon ffurflen gais at approvals@food.gov.uk a nodi bod angen ymweliad cynghori arnoch. Bydd y Tîm Cymeradwyo yn darparu manylion ar sut i dalu.
Asesiad cymeradwyo
Fel rhan o'r broses gymeradwyo, byddwn ni'n asesu:
- offer a strwythur eich sefydliad
- eich system rheoli diogelwch bwyd, fel rhan o'r broses gymeradwyo.
Nid oes hawl gennych chi weithredu tan i chi gael eich cymeradwyo'n amodol.
Ar ôl eich cymeradwyo, bydd un o'n swyddogion milfeddygol yn cysylltu â chi o fewn tri mis i asesu cynhyrchiad a'ch cydymffurfiaeth â holl ofynion hylendid Rheoliad 852/2004 a Rheoliad 853/2004.
Ar ôl cymeradwyo, mae manylion y safle ynghyd â gwybodaeth am y mathau o fwyd a gynhyrchir yn cael eu hychwanegu at restr sefydliadau bwyd cymeradwy y Deyrnas Unedig a sefydliadau bwyd cymeradwy yr Undeb Ewropeaidd.
Yr hawl i apelio
Mae gennych chi hawl i apelio yn erbyn ein penderfyniad os caiff eich safle ei wrthod dan Reoliad 12 o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2009.
Gallwch chi gyflwyno apêl un mis o'r dyddiad y cawsoch wybod am y penderfyniad.
Polisi gweithredu
Mae'r polisi gweithredu yn egluro'r broses ymgeisio a phenderfynu ynghylch cymeradwyo eich busnes. Mae hefyd yn egluro o dan ba amgylchiadau y byddem yn tynnu eich cymeradwyaeth yn ôl.
Mae'r ddogfen hon ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd sydd eisoes â busnes bwyd cymeradwy, ac o bosibl:
- lladd-dai
- ffatrïoedd torri
- sefydliadau trin helgig
- marchnadoedd cyfanwerthu
Rhestr o sefydliadau bwyd cymeradwy
• Sefydliadau bwyd cymeradwy’r DU
• Sefydliadau bwyd cymeradwy’r UE