Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Eglurhad cyfreithiol ar ailfformiwleiddio a sefydliadau cynhyrchu bwyd anifeiliaid

Cyngor ar ailfformiwleiddio a labelu bwyd anifeiliaid.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn rhoi’r eglurhad cyfreithiol canlynol i fusnesau bwyd anifeiliaid.

Cyngor ar ailfformiwleiddio a labelu bwyd anifeiliaid 

Pan fydd yn rhaid i fusnes newid ei fformwleiddiadau bwyd anifeiliaid safonol, gellir defnyddio dewisiadau eraill o dan y meini prawf canlynol:

  • Caniateir i'r cynhwysion newydd gael eu defnyddio ym Mhrydain Fawr neu yng Ngogledd Iwerddon.
  • Defnyddir y cynhwysion newydd yn unol ag unrhyw feini prawf deddfwriaethol er enghraifft, rhywogaethau targed, y terfynau uchaf a ganiateir, ac ati.
  • Rhaid i unrhyw ailfformiwleiddio sicrhau bod y bwyd anifeiliaid yn ddiogel ar gyfer y rhywogaeth neu'r categori anifail a fwriadwyd.
  • Rhaid darparu gwybodaeth gywir ar gyfer bwyd anifeiliaid sydd wedi’i ailfformiwleiddio i adlewyrchu gwir gyfansoddiad y cynnyrch, ac mae’n rhaid ei darparu ar gyfer yr uned(au) cynnyrch unigol. Gellir cyflawni hyn trwy gywiro'r wybodaeth bresennol ar ddeunydd pecynnu, er enghraifft trwy labelu dros hen labeli. 
  • Pan fo'r ailfformiwleiddio yn annilysu unrhyw honiadau, rhaid newid y label ar y deunydd pecynnu, er mwyn peidio â chamarwain y cwsmer. Rhaid newid deunyddiau hysbysebu eraill yn unol â hynny.

Yn ogystal, cyn ei gynhyrchu a lle bo hynny'n briodol, efallai y bydd y busnes am roi gwybod i’r cwsmer yn uniongyrchol am unrhyw wyro oddi wrth fformwleiddiadau safonol dan gontract, er enghraifft archebion mawr i ffermydd. 

Cynhyrchion bwyd anifeiliaid nad ydynt yn dod o anifeiliaid sy’n cael eu cynhyrchu mewn gwahanol gyfleusterau

Mae gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid yn parhau i fod â rhwymedigaeth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r awdurdod cymwys am unrhyw sefydliadau sydd o dan eu rheolaeth. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod i’r awdurdod cymwys am unrhyw newid sylweddol mewn gweithgareddau ac os yw unrhyw sefydliadau sy’n bodoli eisoes yn cau.  Pan fydd busnes yn ail-leoli man cynhyrchu i safle bwyd anifeiliaid gwahanol, bydd hyn yn cyfrif fel sefydliad newydd a rhaid dilyn y meini prawf canlynol: 

  • Rhaid i sefydliadau gael eu cofrestru a/neu eu cymeradwyo'n briodol gyda'u hawdurdod gorfodi o dan y rheoliadau hylendid bwyd anifeiliaid.
  • At ddibenion olrhain, rhaid gosod sticer newydd dros yr un gwreiddiol ar labeli neu ddeunydd pecynnu presennol sy’n cynnwys manylion perthnasol y cynhyrchydd.

Yng Nghymru ac yn Lloegr, cyfrifoldeb yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yw cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid, neu yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â'r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA).

Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid barhau i olrhain, dilyn gofynion hylendid bwyd anifeiliaid a lle bo'n berthnasol, cynnal eu system Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP).