Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Deddfwriaeth bwyd anifeiliaid

Mae deddfwriaeth ar fwyd anifeiliaid yn berthnasol i ystod eang o fusnesau a gweithgareddau bwyd anifeiliaid. Mae'r dudalen hon yn cynnwys canllawiau pellach ar y brif ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar fusnesau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid.

Mae deddfwriaeth yn berthnasol o’r cam cynhyrchu cynradd i’r cam lle caiff bwyd anifeiliaid ei roi ar y farchnad a bwydo anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd. Mae'r wybodaeth ganlynol yn cynnwys y brif ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer diwydiant y mae'n rhaid i chi fod yn ymwybodol ohonynt.

Mewn ymateb i ymholiadau’r diwydiant yn ystod y coronafeirws (COVID-19), rydym ni wedi cyhoeddi eglurhad ar gyfer cynhyrchwyr bwyd anifeiliaid mewn perthynas ag ailfformiwleiddio a labelu cynhyrchion, ynghyd â gwybodaeth am gyfleusterau cynhyrchu.

Prif reoliadau

  • 178/2002 ar egwyddorion cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid
  • 183/2005 yn gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid
  • 767/2009 ar osod bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'i ddefnyddio
  • 1831/2003 ar ychwanegion i'w defnyddio mewn maeth anifeiliaid
  • 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM)
  • 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill
  • 2020/354 yn sefydlu rhestr o'r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol

Rheoliad 178/2002 ar egwyddorion cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid

Mae Rheoliad 178/2002 yn diffinio bod 'cyfraith bwyd' yn cynnwys cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd. Mae'n diffinio 'busnes bwyd anifeiliaid' fel unrhyw fusnes sy'n cyflawni unrhyw fath o gynhyrchu, gweithgynhyrchu, prosesu, storio, cludo, neu ddosbarthu bwyd anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys cynhyrchu, prosesu neu storio bwyd anifeiliaid.

Mae Erthyglau 15-18 a 20-21 yn nodi gofynion diogelwch bwyd, y gallu i olrhain, a chyfrifoldebau gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid.

Rheoliad 183/2005 sy'n nodi'r gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid

Mae Rheoliad 183/2005 yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhan fwyaf o fusnesau sy'n ymwneud â defnyddio, gweithgynhyrchu neu farchnata bwyd anifeiliaid gael eu cymeradwyo neu eu cofrestru gyda'u hawdurdod cymwys. 

Mae'n gosod safonau mewn perthynas â chludo a storio bwyd anifeiliaid, cynnal a chadw offer, hyfforddi staff, a chadw cofnodion.

Mae busnesau bwyd anifeiliaid yn cynnwys:

  • mewnforwyr a masnachwyr deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwyd anifeiliaid wedi'i weithgynhyrchu (gan gynnwys masnachwyr sy'n prynu'n uniongyrchol gan ffermwyr)
  • gweithgynhyrchwyr bwyd sy'n gwerthu deunydd i mewn i'r gadwyn fwyd anifeiliaid
  • cludwyr ffordd a chwmnïau cludo sy'n cludo bwyd anifeiliaid
  • da byw a rhai ffermwyr âr
  • masnachwyr nad ydynt yn cadw stoc ar eu safle neu froceriaid.

Mae rhai eithriadau, gan gynnwys

  • pobl sy'n cynhyrchu neu’n storio bwyd anifeiliaid
  • pobl sy'n bwydo anifeiliaid i'w bwyta eu hunain
  • pobl sy’n cadw anifeiliaid nad ydynt at ddibenion cynhyrchu bwyd
  • cynhyrchydd yn cyflenwi ‘symiau bach’ o gynhyrchion cynradd ar lefel leol yn uniongyrchol i ffermydd lleol
  • manwerthu bwyd anifeiliaid anwes.

Rydym ni hefyd yn darparu canllawiau penodol ar gyfer busnesau bwyd a diod – cyflenwi i'r gadwyn bwyd anifeiliaid.

Rheoliad 767/2009 ar roi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a defnyddio bwyd anifeiliaid

Mae Rheoliad 767/2009 yn nodi'r gofynion ar gyfer marchnata, labelu a chyfansoddiad bwyd anifeiliaid, ac yn cynnwys darpariaethau sydd â'r bwriad o ddiogelu iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae'n darparu y gellir rhoi bwyd anifeiliaid ar y farchnad a'i ddefnyddio dim ond os yw'n ddiogel ac os nad yw'n cael effaith andwyol ar yr amgylchedd neu ar les anifeiliaid.

Mae'r rheoliad hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer Catalog o Ddeunyddiau Bwyd Anifeiliaid, sydd wedi’i gyhoeddi fel Rheoliad 68/2013.  Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n gosod deunydd bwyd anifeiliaid nad yw yn y Catalog o Ddeunyddiau Bwyd Anifeiliaid ar y farchnad am y tro cyntaf i roi gwybod am ei ddefnydd i gynrychiolwyr busnesau bwyd anifeiliaid ym Mhrydain Fawr.  I roi gwybod a gweld cofrestr o gofnodion deunyddiau bwyd anifeiliaid, ewch i: www.gbfeedmaterialsregister.org.uk

Rheoliad 1831/2003 ar ychwanegion i’w defnyddio mewn maeth anifeiliaid

Mae Rheoliad 1831/2003 yn amlinellu:

  • rheolau ar awdurdodiadau ychwanegion bwyd anifeiliaid
  • amodau defnyddio ar gyfer ychwanegion
  • darpariaethau ar labelu ychwanegion bwyd anifeiliaid a'u rhag-gymysgeddau y mae'n rhaid cadw atynt

Mae'r rheoliad yn cwmpasu'r categorïau ychwanegion bwyd anifeiliaid canlynol (gydag enghreifftiau o'u grwpiau swyddogaethol):

  • ychwanegion technolegol (fel cyffeithyddion neu preservatives)
  • ychwanegion synhwyraidd (fel cyflasynnau (flavourings) a lliwiau
  • ychwanegion maeth (fel fitaminau a mwynau)
  • ychwanegion sootechnegol (fel ensymau a micro-organebau a ddefnyddir i effeithio'n gadarnhaol ar berfformiad anifeiliaid iach)
  • cocsidiostatau a histomonostatau (i reoli parasitiaid perfedd)

Rheoliad Rhif 1829/2003 ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig

Mae Rheoliad 1829/2003 yn sefydlu gweithdrefn ganolog ar gyfer asesu'n wyddonol ac awdurdodi organebau a addaswyd yn enetig (GMOs) a bwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig (GM). Mae'r gweithdrefnau asesu yn cwmpasu'r GMO ei hun a'r bwyd a'r bwyd anifeiliaid sy'n deillio ohono.

Mae'r Rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i labelu bob bwyd a bwyd anifeiliaid GM sy'n cynnwys GMOs neu a gynhyrchir o gynhwysion a gynhyrchwyd o GMOs, waeth p'un a oes deunydd GM yn y cynnyrch terfynol ai peidio. Ceir trothwy o 0.9% ar gyfer presenoldeb GMOs ac nid oes angen eu labelu os yw’r lefelau’n is na’r trothwy hwn, cyhyd â nad oes modd osgoi ei bresenoldeb yn dechnegol.

Rheoliad 2017/625 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill

Mae Rheoliad 2017/625 yn amlinellu’r rheolaethau swyddogol a gyflawnir er mwyn sicrhau y caiff cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid ei dilysu.

Mae'r Rheoliad hwn yn nodi'r egwyddorion cyffredinol a’r pwerau galluogi ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol, ac mae'n manylu ar y dull y dylai awdurdod gorfodi ei ddefnyddio wrth wirio cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid a rheolau iechyd a lles anifeiliaid.

Rheoliad 2020/354 sy’n sefydlu rhestr o'r defnyddiau arfaethedig ar gyfer bwyd anifeiliaid a fwriedir at ddibenion maethol neilltuol

Dim ond os yw'r defnydd a fwriedir wedi'i gynnwys yn y rhestr o ddefnyddiau a fwriedir ac os yw'n bodloni'r nodweddion maethol hanfodol at y diben maethol penodol a nodir ar y rhestr honno, y gellir marchnata bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol neilltuol (PARNUTs). Gellir gweld y rhestr o PARNUTs awdurdodedig yn Rheoliad 2020/354.

Deddfwriaeth genedlaethol

Mae deddfwriaeth genedlaethol yn berthnasol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithredu pwerau ar gyfer deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir (retained EU law). Mae deddfwriaeth baralel ond ar wahân ar waith yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid, Samplu ac ati, a Gorfodi) (Cymru) 

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi a gweithredu Rheoliadau.

Mae'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn gyfrifol am fesurau ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid a rheoli enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs).

Mae'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol yn gyfrifol am ddeddfwriaeth meddyginiaethau milfeddygol.

Dyma ragor o wybodaeth am ddechrau busnes bwyd anifeiliaid