Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfraith Bwyd Gyffredinol

P'un a ydych chi'n fusnes bwyd neu'n ddefnyddiwr sydd â diddordeb mewn cyfraith bwyd, mae gofynion cyffredinol y dylech chi fod yn ymwybodol ohonynt.

Mae'r trosolwg hwn yn ymdrin â phrif ddeddfwriaeth Prydain Fawr a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir (retained EU legislation) yn y meysydd a ganlyn:

  • mewnforion ac allforion bwyd
  • diogelwch
  • y gallu i olrhain
  • labelu 
  • galw a thynnu cynnyrch yn ôl 

Rydym ni wedi crynhoi geiriad y ddeddfwriaeth dan sylw, felly dylid defnyddio hwn fel crynodeb cyffredinol o gyfraith diogelwch bwyd, ac nid fel cyngor cyfreithiol. Mae'n bwysig gwirio geiriad cywir y ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i'r sefyllfa rydych chi'n ymdrin â hi.

Pwysig

Cyfeiriadau at yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn nogfennau canllaw'r ASB

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wrthi’n diweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE, er mwyn adlewyrchu'r gyfraith sydd bellach mewn grym yn gywir, ym mhob dogfen ganllaw newydd neu ddiwygiedig a gyhoeddir ar ôl i’r Cyfnod Pontio ddod i ben ddiwedd 2020.  Mewn rhai amgylchiadau, efallai na fydd yn ymarferol i ni ddiweddaru’r holl gyfeiriadau at yr UE ar yr adeg yr ydym ni’n cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig. 

Ac eithrio yng Ngogledd Iwerddon, dylid darllen unrhyw gyfeiriadau at Reoliadau'r UE yn y canllawiau hyn i olygu cyfraith yr UE a ddargedwir (retained EU law). Gallwch weld cyfraith yr UE a ddargedwir trwy Archif Ymadael â’r UE Llywodraeth EM. Dylid darllen y gyfraith hon ochr yn ochr ag unrhyw ddeddfwriaeth Ymadael â'r UE a wnaed i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n gywir yng nghyd-destun y Deyrnas Unedig (DU). Mae deddfwriaeth Ymadael â’r UE i’w gweld ar legislation.gov.uk. Yng Ngogledd Iwerddon, bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn berthnasol mewn perthynas â’r rhan fwyaf o gyfraith hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, fel a restrir ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon, ac ni fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn berthnasol i Ogledd Iwerddon o dan yr amgylchiadau hyn.

England, Northern Ireland and Wales

Deddfwriaeth Prydain Fawr

Prif nod Rheoliad cyfraith yr UE a ddargedwir (CE) 178/2002, 'Cyfraith Bwyd Gyffredinol' yw diogelu iechyd pobl a sicrhau budd y defnyddiwr mewn perthynas â bwyd. Mae'n berthnasol i bob cam cynhyrchu, prosesu a dosbarthu bwyd a bwyd anifeiliaid gyda rhai eithriadau. Rhaid i fusnesau bwyd gydymffurfio â chyfraith diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid.

Er mwyn rhoi bwyd diogel ar y farchnad rhaid i fusnesau bwyd sicrhau:

  • y gallu i olrhain bwyd
  • cyflwyniad priodol o fwyd
  • y darperir gwybodaeth addas am fwyd
  • gweithdrefnau ar gyfer tynnu neu alw bwyd anniogel a roddir ar y farchnad yn ôl
  • bod bwyd a bwyd anifeiliaid sy'n cael ei fewnforio, ac yn cael ei allforio o Brydain Fawr, yn cydymffurfio â chyfraith bwyd. 

Rydym ni wedi creu nodiadau canllaw ar ddiogelwch bwyd, y gallu i olrhain, a thynnu a galw cynnyrch yn ôl, yn seiliedig ar y Gyfraith Bwyd Gyffredinol.

England, Northern Ireland and Wales

Darpariaethau’r Gyfraith Bwyd Gyffredinol

Mae Cyfraith Bwyd Gyffredinol yn cynnwys egwyddorion (Erthyglau 5 i 10) a gofynion (Erthygl 14 i 21). Rydym ni’n amlinellu'r darpariaethau allweddol ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd o fewn y Gyfraith Bwyd Gyffredinol sy'n berthnasol i weithredwyr busnesau bwyd.

Diogelwch

Mae Erthygl 14 yn datgan na ddylid rhoi bwyd ar y farchnad os yw'n anniogel. Mae bwyd yn cael ei ystyried yn anniogel os yw'n:

  • niweidiol i iechyd
  • anaddas i'w fwyta gan bobl

Mae'r erthygl hefyd yn nodi pa ffactorau sydd angen eu hystyried wrth bennu p'un a yw bwyd yn niweidiol i iechyd neu'n anaddas.

Cyflwyno bwyd

Mae Erthygl 16 yn datgan na ddylai labelu, hysbysebu a chyflwyniad, gan gynnwys y lleoliad y mae bwyd yn cael ei arddangos, gamarwain defnyddwyr.

Y gallu i olrhain

Mae Erthygl 18 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnes bwyd gadw cofnodion o'r canlynol:

  • bwyd
  • sylweddau bwyd
  • anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd sy'n cael eu cyflenwi i'w busnes
  • busnesau y maent wedi'u cyflenwi gyda'u cynhyrchion 

Ym mhob achos, mae'n ofynnol i'r wybodaeth fod ar gael i awdurdodau cymwys yn ôl y gofyn.

Mewnforion

Mae Erthygl 11 yn mynnu bod yn rhaid i fwyd sydd wedi'i fewnforio i Brydain Fawr i'w roi ar y farchnad gydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd, neu os oes cytundeb penodol rhwng Prydain Fawr a'r wlad sy'n allforio, rhaid cydymffurfio â'r gofynion hynny.

Allforion

Mae Erthygl 12 yn mynnu bod yn rhaid i fwyd a gaiff ei allforio (neu ei ail-allforio) o Brydain Fawr gydymffurfio â gofynion cyfraith bwyd, oni bai bod awdurdodau'r wlad sy'n mewnforio wedi gofyn fel arall, neu ei fod yn cydymffurfio â chyfreithiau, rheoliadau a gweithdrefnau cyfreithiol a gweinyddol eraill y wlad sy'n mewnforio.

Wrth allforio neu ail-allforio bwyd, cyn belled â nad yw'r bwyd yn niweidiol i iechyd neu'n anniogel, mae'n rhaid i awdurdodau cymwys y wlad sy'n mewnforio fod wedi cytuno y gall y bwyd gael ei allforio neu ei ail-allforio. Mae'n rhaid i'r awdurdodau cymwys gadarnhau hyn ar ôl iddynt gael eu hysbysu'n llawn ynghylch pam nad oedd modd rhoi'r bwyd ar y farchnad.

Lle mae cytundeb dwyochrog rhwng Prydain Fawr a gwlad arall, mae angen i fwyd sy'n cael ei allforio o Brydain Fawr gydymffurfio â'i ddarpariaethau.

Galw a thynnu cynnyrch yn ôl a rhoi gwybod amdano

Mae Erthygl 19 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd dynnu bwyd yn ôl nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd ac sydd wedi gadael eu rheolaeth. Mae'n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd alw'r bwyd yn ôl os yw wedi cyrraedd y defnyddiwr.

'Tynnu bwyd yn ôl' yw pan fydd bwyd yn cael ei dynnu o'r farchnad, ac mae hyn yn cynnwys yn y man gwerthu. 'Galw bwyd yn ôl' yw pan ofynnir i gwsmeriaid ddychwelyd neu ddinistrio'r cynnyrch.

Mae'n rhaid i fusnesau bwyd hefyd hysbysu'r awdurdodau cymwys (ni a'r awdurdod lleol). Mae'n rhaid i fanwerthwyr a dosbarthwyr helpu gyda thynnu bwyd anniogel yn ôl a throsglwyddo gwybodaeth sy'n angenrheidiol i'w olrhain.

Pan fo gweithredwr y busnes bwyd wedi rhoi bwyd ar y farchnad sy'n niweidiol i iechyd, mae'n rhaid iddo hysbysu'r awdurdodau cymwys yn syth. Mae darpariaethau tebyg ar gyfer bwyd anifeiliaid.

Deddfwriaeth genedlaethol

Lloegr

Yn Lloegr, mae Rheoliadau Diogelwch Bwyd a Hylendid (Lloegr) 2013 (fel y diwygiwyd) yn darparu ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol o Reoliad cyfraith yr UE a ddargedwir (CE) 178/2002 ac ar gyfer y ddeddfwriaeth hylendid bwyd. Mae hefyd yn darparu cyfraith genedlaethol ar gyfer: cludo olew neu fraster hylif a siwgr amrwd ar y môr; cyflenwad uniongyrchol gan y cynhyrchydd o feintiau bach o gig o ddofednod neu lagomorffau a laddwyd ar y fferm; rheoli tymheredd mewn sefydliadau manwerthu; cyfyngiadau ar werthu a chyflenwi llaeth buwch i’w yfed yn amrwd a rhanddirymiadau sy'n ymwneud â sefydliadau cynhyrchiant is (lladd-dai).

Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 yn gorfodi rhai o ddarpariaethau Rheoliad cyfraith yr UE a ddargedwir (CE) 178/2002. Maent hefyd yn diwygio Deddf Diogelwch Bwyd 1990 i'w chysoni â Rheoliad cyfraith yr UE a ddargedwir (CE) 178/2002.

England, Northern Ireland and Wales

Troseddau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

Y prif droseddau diogelwch bwyd a diogelu'r cyhoedd a gafodd eu creu gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 oedd:

  • Adran 7 – achosi i fwyd fod yn niweidiol i iechyd drwy:
    • ychwanegu darn neu sylwedd i'r bwyd
    • defnyddio darn neu sylwedd fel cynhwysyn wrth baratoi bwyd
    • tynnu unrhyw gyfansoddyn o'r bwyd
    • prosesu neu drin y bwyd
    • gyda'r bwriad y bydd yn cael ei werthu i'w fwyta gan bobl
  • Adran 14 – gwerthu bwyd nad yw o'r natur, y sylwedd na'r ansawdd y disgwylir gan y prynwr.
  • Adran 15 – disgrifio neu gyflwyno bwyd yn anghywir yn bwrpasol.
  • Dan adran 20, os yw trosedd wedi'i chyflawni oherwydd gweithrediad neu fethiant unigolyn arall, yr unigolyn hwnnw sy'n euog o'r drosedd.
  • Dan adran 21, mewn trosedd dan ddarpariaethau Rhan 2 y Ddeddf (sy'n cynnwys y troseddau a restrir uchod), bydd angen i weithredwr y busnes bwyd brofi ei fod wedi cymryd pob mesur rhagofalus rhesymol, ac wedi rhoi sylw dyladwy i osgoi cyflawni'r drosedd.

Deddfwriaeth hylendid bwyd

Mae deddfwriaeth hylendid bwyd yn debyg i'r ddeddfwriaeth ar ofynion cyffredinol ac egwyddorion cyfraith bwyd ond yn benodol, mae'n ymwneud â diogelwch microbiolegol bwyd.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'r rheolau hylendid bwyd ar gyfer pob busnes bwyd, gan roi rheolaethau effeithiol a chymesur ar waith drwy gydol y gadwyn fwyd, o gynhyrchu cynradd hyd at werthu neu gyflenwi'r i'r defnyddiwr.