Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Taliadau rheolaethau swyddogol mewn sefydliadau cig

Sut rydym ni’n codi tâl am weithgareddau a gynhelir gennym ni mewn sefydliadau cig.

Pwy sy’n talu

Codir tâl ar weithredwyr busnesau bwyd mewn sefydliadau cig cymeradwy am reolaethau cig. Dyma’r safleoedd:

  • lladd-dai
  • ffatrïoedd torri
  • sefydliad trin helgig
  • cyfleusterau lladd ar y fferm
  • safleoedd torri

Pam rydym yn codi tâl

Mae’n ofynnol i ni godi anfoneb ar y diwydiant cig yn ôl y gyfraith a chanllawiau Trysorlys EF, fel y nodir yn Rheoli Arian Cyhoeddus, i godi tâl ar fusnesau am y gwasanaethau rydym yn eu darparu iddyn nhw.

Mae Milfeddygon Swyddogol ac Arolygwyr Hylendid Cig yn helpu i sicrhau bod gan ddefnyddwyr ac allforwyr hyder yn y cig a werthir yma a thramor.

Sut rydym yn codi tâl

Rydym yn codi tâl fesul awr am ddefnyddio ein hadnoddau staff, gan ychwanegu rhai taliadau am lwfansau lle mae patrymau gwaith gweithredwr busnes bwyd yn arwain at hyn, fel gweithio shifftiau. Gellir gosod gostyngiadau ar rai o’r taliadau hyn, a bydd y lladd-dai lleiaf yn cael gostyngiad o 90% ar eu holl taliadau. Gweler ein hadnodd cyfrifo costau i amcangyfrif y taliadau am y rheolaethau yn eich eiddo.

Cymru a Lloegr

Mae hyn yn cael ei reoleiddio gan gyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir (retained EU law) ac yn cael ei weithredu gan y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n berthnasol yng Nghymru ac yn Lloegr.

Codir tâl hefyd ar weithredwyr busnesau bwyd mewn safleoedd cig cymeradwy am y canlynol:

  • ddogfennau ar symud yn fewnol
  • ardystio allforion
  • dilysu cydymffurfiaeth â gofynion allforio gwledydd eraill

Rydym yn codi tâl ar Adrannau Llywodraethol a chwsmeriaid eraill am waith rydym yn ei gyflawni ar eu rhan. Er enghraifft, am wiriadau ar fesurau rheoli sgil-gynhyrchion anifeiliaid, neu draddodi darlithoedd arbenigol i brifysgolion.

Gogledd Iwerddon

Mae hyn yn cael ei reoleiddio gan gyfraith rheolaethau swyddogol yr UE a’i weithredu gan y ddeddfwriaeth ddomestig sy’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon.

Caiff rheolaethau swyddogol hylendid cig yn y sefydliadau cymeradwy hyn eu cyflawni gan yr Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA).

Codir tâl ar weithredwyr busnesau bwyd am y rheolaethau hyn trwy ein system anfonebu yng Ngogledd Iwerddon.

Ni chodir tâl ar weithredwyr busnesau bwyd am yr amser a dreulir ar reolaethau Deunydd Risg Penodedig, nac am yr amser a dreulir ar weithgarwch y mae gan DAERA gyfrifoldeb polisi drostynt.

Adnoddau

Cymru a Lloegr
Mae graddau ein staff naill ai’n:

  • Filfeddyg Swyddogol cyflogedig neu dan gontract
  • Arolygydd Hylendid Cig cyflogedig neu dan gontract

Gogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon y graddau yw:

  • Uwch Arolygydd Hylendid Cig
  • Arolygydd Hylendid Dofednod
  • Arolygydd Hylendid Cig Coch
  • Milfeddyg Swyddogol (OV)
     

Gostyngiadau

Gellir rhoi gostyngiadau ar rai taliadau rheolaethau cig ar gyfer lladd-dai cig coch, lladd-dai dofednod (poultry), cyfleusterau lladd ar y fferm a sefydliadau trin helgig. Ni chynigir gostyngiadau ar daliadau i ffatrïoedd torri. 

Cefndir

Ym mis Medi 2012, gofynnom ni i’r diwydiant cig weithio gyda ni i ddatblygu system ostyngiadau ar gyfer y diwydiant cig a fyddai’n:

  • hyrwyddo effeithlonrwydd
  • cefnogi gwella cydymffurfiaeth (o fewn cylch gwaith dadreoleiddio)
  • cefnogi mentrau bach a chanolig yn briodol 
  • darparu trefniadau gostyngiadau mwy cytbwys a theg 

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o’r sectorau cynhyrchu a phrosesu i sefydlu’r Grŵp Llywio ar gyfer Codi Tâl am Reolaethau Gig (‘Y Grŵp Llywio’) o dan Gadeirydd annibynnol. 

Ar gyfer y cam cyntaf, roedd y Grŵp Llywio yn cynnwys pymtheg o gynrychiolwyr o bob rhan o’r sectorau cynhyrchu a phrosesu, y Cadeirydd ac aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). 

Ymgynghorwyd ynglŷn â chynigion y grŵp yn 2015 a chytunwyd arnynt gan bwyllgorau rheoleiddio’r llywodraeth cyn eu gweithredu ym mis Ebrill 2016. 

Gallwch chi ddod o hyd i fanylion penodol y system ostyngiadau sydd wedi’i datblygu yn nogfennau’r Grŵp Llywio ar Daliadau Cig.

Ail gam gwaith y Grŵp Llywio oedd datblygu model cyllid cynaliadwy ar gyfer rheolaethau swyddogol ar gig.

Roedd y Grŵp Llywio yn adrodd i’n Bwrdd ym mis Mawrth 2017, ac fe gytunwyd y byddai’r Grŵp a’i waith yn dod i ben tan i ni ymadael â’r UE.

Canllaw Taliadau

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

England and Wales

Northern Ireland

Archifau cenedlaethol canllawiau ar daliadau cyn 2016-2017

Data taliadau

Mae’r wybodaeth hon yn dadansoddi’r taliadau yng Nghymru ac yn Lloegr ac yn egluro sut mae taliadau i’r diwydiant yn cael eu cyfrifo ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

Dangosir taliadau sy’n gysylltiedig â’r ASB mewn dau gategori: taliadau uniongyrchol a chostau anuniongyrchol. Maent hefyd yn cael eu dadansoddi yn ôl costau:

  • Arolygwyr Hylendid Cig
  • Milfeddygon Swyddogol

Rhennir cyfanswm y taliadau cyllidebol â nifer yr oriau a gyllidebwyd i gyfrifo’r cyfraddau codi tâl fesul awr ar gyfer Arolygwyr Hylendid Cig a Milfeddygon Swyddogol.

Defnyddir y cyfraddau hyn i bennu bil misol pob ffatri gig. Mae gostyngiad wedi’i gynnwys ar fil y mwyafrif o ffatrïoedd, felly nid oes angen iddynt dalu’r taliadau llawn.

Defnyddir y broses data taliadau i nodi cyfran taliadau anuniongyrchol yr ASB sy’n ymwneud â rheolaethau cig ac sy’n cael eu dosrannu i gyfraddau’r Milfeddygon Swyddogol a’r Arolygwyr Hylendid Cig. Mae’r broses data costau a chyfrifo’r cyfraddau taliadau yn destun archwiliad allanol. 

England, Northern Ireland and Wales

England, Northern Ireland and Wales

Archifau cenedlaethol data taliadau cyn 2017 - 2018 

Cyfrifo taliadau

Mae’r ddogfen gyfrifo hon ar gyfer gweithredwyr busnesau bwyd yng Nghymru ac yn Lloegr sy’n ystyried newid eu horiau a/neu eu harferion gweithredu. Gellir ei defnyddio cyn cwrdd â’n rheolwyr maes, i ganfod sut byddai’r newidiadau’n effeithio ar daliadau rheolaethau cig.

Mae’r ddogfen gyfrifo wedi’i rhannu’n dair rhan, sy’n rhoi amcangyfrifon dangosol ar gyfer:

  • lladd-dai cig coch a chyfleusterau lladd ar y fferm
  • lladd-dai dofednod
  • sefydliadau trin helgig

Dim ond er mwyn cyfrifo’r amcangyfrifon ar gyfer y flwyddyn benodol a nodir y gellir defnyddio’r teclynnau hyn. 

England and Wales