Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau llaeth yfed amrwd

Canllawiau i fusnesau bwyd ar werthu, samplu a phrofi llaeth buwch amrwd, gan gynnwys gwybodaeth am dwbercwlosis a llaeth buwch i'w yfed yn amrwd.

Mae llaeth yfed amrwd i’w werthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol yn gynnyrch bwyd risg uchel, ac felly’n destun mesurau rheoli llymach.

Cymeradwyo a chofrestru

Os ydych chi am werthu llaeth yfed amrwd ac nad ydych chi eisoes wedi cofrestru fel busnes bwyd, bydd angen i chi gofrestru gyda ni.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ond nawr yn bwriadu dechrau gwerthu llaeth yfed amrwd, bydd angen i chi roi gwybod i ni am eich bwriad i werthu.

Gallwch chi gofrestru gyda ni neu roi gwybod eich bod chi’n bwriadu gwerthu llaeth yfed amrwd drwy ddefnyddio’r ffurflen gais i gofrestru daliad cynhyrchu llaeth.

Os oes angen unrhyw gyngor neu gymorth arnoch chi yn ymwneud â’ch cais, gallwch chi gysylltu â ni drwy anfon e-bost at: approvals@food.gov.uk

Gogledd Iwerddon

Gallwch wneud cais i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon drwy'r Adran Amaethyddiaeth a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon.

Y broses gofrestru

Dyma beth fydd yn digwydd pan fyddwn ni’n cael eich cais:

  • bydd un o’n Harolygwyr Hylendid Llaeth yn ymweld â’r daliad ac yn cynnal arolygiad. Os nad yw amodau’r daliad yn dderbyniol, bydd yr Arolygwr yn cymryd sampl o laeth amrwd ac yn ei ddadansoddi dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd
  • unwaith bydd y sampl wedi’i dadansoddi gyda chanlyniad boddhaol, byddwn ni’n rhoi gwybod i chi a’r awdurdod lleol

Cofrestru gydag awdurdodau lleol

Byddwn ni’n rhoi gwybod i’r awdurdodau lleol eich bod chi’n bwriadu cynhyrchu llaeth buwch i’w yfed yn amrwd. Fodd bynnag, dylech chi hefyd gysylltu â’ch awdurdod lleol oherwydd efallai yr hoffent weld y broses llenwi a photelu.

Canllawiau i gynhyrchwyr llaeth yfed amrwd

Bydd y canllawiau hyn yn eich helpu i ddeall eich rhwymedigaethau cyfreithiol a chymhwyso arfer gorau.

Dylech ddarllen y canllawiau ar y cyd â Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Rheoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013.

At ddibenion y canllawiau hyn, chi yw preswylydd y daliad sy'n cadw'r anifeiliaid sy'n cynhyrchu'r llaeth.

Rydym ni'n awgrymu eich bod yn darllen ac yn deall y ddogfen hon cyn i chi ddechrau cynhyrchu llaeth yfed amrwd i'w werthu'n uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol. 

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

 

Hufen amrwd

Gwerthu hufen amrwd:

  • nid yw’n ddarostyngedig i’r cyfyngiadau mewn daliadau cynhyrchu a safleoedd godro
  • rhaid cydymffurfio â’r holl ofynion sy’n berthnasol i gynhyrchion llaeth o dan reolau hylendid llaeth a safonau microbiolegol
  • rhaid ei gynhyrchu gyda llaeth sy’n bodloni meini prawf statws y fuches – gellir ond gwerthu llaeth yn uniongyrchol i ddefnyddwyr gan feddianwyr daliadau cynhyrchu llaeth cofrestredig ac mae’n rhaid i laeth yfed amrwd gydymffurfio â’r rheolau hylendid llaeth a safonau microbiolegol 
  • nid yw’n ofynnol i hufen amrwd gynnwys y rhybudd iechyd ond mae’n rhaid arddangos y geiriau ‘wedi’i wneud â llaeth amrwd’ ar y cynnyrch
  • caiff cydymffurfiaeth â’r gofynion hyn ei monitro drwy arolygiadau seiliedig ar risg