Neidio i’r prif gynnwys

Canllawiau ar awdurdodi prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid

Gofynion o ran awdurdodi prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid
Diweddarwyd ddiwethaf
Mae'r dudalen hon yn rhan o'r Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion wedi'u rheoleiddio

Mae proses ddadwenwyno yn broses lle mae sylwedd annymunol yn cael ei dynnu o fwyd anifeiliaid halogedig nad yw'n cydymffurfio. Gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:

  • ffisegol – wedi'i dynnu ar bwrpas o fwyd anifeiliaid halogedig nad yw'n cydymffurfio
  • cemegol – wedi'i ddadelfennu (broken down) neu ei ddinistrio gan sylwedd cemegol yn gyfansoddion diniwed (harmless)
  • biolegol neu ficrobiolegol – wedi'i fetaboli neu ei ddinistrio neu ei ddadactifadu gan broses fiolegol neu ficrobiolegol yn gyfansoddion diniwed

Mae angen awdurdodi prosesau dadwenwyno bwyd anifeiliaid cyn y gellir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr. Mae Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir yn diffinio’r meini prawf derbynioldeb ar gyfer y prosesau dadwenwyno ffisegol, cemegol, (micro)biolegol.  

Yn gyffredinol, caniateir dulliau ffisegol lle mae sylwedd annymunol yn cael ei leihau neu ei ddileu trwy lanhau, didoli neu dynnu mecanyddol. Fodd bynnag, mae angen awdurdodiad ar gyfer dadwenwyno cemegol, biolegol neu ficrobiolegol.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi proses ddadwenwyno newydd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch wedi’i reoleiddio. Ar ôl llenwi'r ffurflen gais, anfonir dolen atoch lle gallwch lanlwytho dogfennau cais a fydd yn ffurfio'ch coflen (dossier). Nid oes unrhyw ffi am y cais.

Nid oes unrhyw ganllawiau penodol ar gael ar gyfer ceisiadau am brosesau dadwenwyno. Fodd bynnag, dylai unrhyw goflen ddangos bod y broses ddadwenwyno yn bodloni'r meini prawf derbynioldeb a sefydlwyd yn Rheoliad 2015/786 yr UE a ddargedwir. 

Meini prawf derbynioldeb ar gyfer prosesau dadwenwyno

Rhaid i'r broses ddadwenwyno:

  • gael ei pherfformio gyda sylwedd cemegol neu asiant microbiolegol derbyniol sydd wedi’i nodweddu’n llawn
  • bod yn effeithiol ac yn anghildroadwy (irreversible)
  • peidio ag effeithio'n andwyol ar nodweddion a natur y bwyd anifeiliaid
  • cael ei chynnal mewn sefydliad bwyd anifeiliaid sydd wedi'i gymeradwyo ac sydd ar restr genedlaethol

Meini prawf derbynioldeb ar gyfer proses dadwenwyno ffisegol:

  • bod y broses yn effeithiol
  • nad yw'r broses yn effeithio'n andwyol ar nodweddion a natur y bwyd anifeiliaid
  • gwarantir y gwaredir y rhan o'r bwyd anifeiliaid a gaiff ei thynnu yn ddiogel

Meini prawf derbynioldeb ar gyfer proses dadwenwyno cemegol:

  • bod y broses yn cael ei pherfformio gyda sylwedd cemegol derbyniol wedi'i nodweddu'n llawn
  • bod y broses yn effeithiol ac yn anghildroadwy
  • nad yw'r broses yn arwain at weddillion niweidiol y sylwedd cemegol a ddefnyddir yn y broses ddadwenwyno yn y bwyd anifeiliaid wedi’i ddadwenwyno
  • nad yw'r broses yn arwain at gynhyrchion adweithio yr halogydd sy'n peryglu iechyd anifeiliaid a'r cyhoedd a'r amgylchedd
  • nad yw'r broses yn effeithio'n andwyol ar nodweddion a natur y bwyd anifeiliaid

Meini prawf derbynioldeb ar gyfer proses dadwenwyno (micro)biolegol:

  • bod y broses yn cael ei pherfformio gydag asiant (micro)biolegol derbyniol wedi'i nodweddu'n llawn
  • bod y broses yn effeithiol ac yn anghildroadwy
  • nad yw'r broses yn arwain at weddillion niweidiol yr asiant (micro)biolegol a ddefnyddir yn y broses ddadwenwyno yn y bwyd anifeiliaid wedi’i ddadwenwyno
  • nad yw'r broses yn arwain at fetabolion yr halogydd sy'n peryglu iechyd anifeiliaid a'r cyhoedd a'r amgylchedd
  • nad yw'r broses yn effeithio'n andwyol ar nodweddion a natur y bwyd anifeiliaid

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais ar gyfer dadwenwyno i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi gyflwyno'ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion wedi’u rheoleiddio. Wrth lenwi'r ffurflen gais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn EFSA.

Awdurdodiadau presennol

Os yw eich cynnyrch neu broses wedi'i hawdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE) cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr.

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd?  

Mae'r gyfraith yn cynnwys dyddiadau ar gyfer camau allweddol yn y broses. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn.  

Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl. 

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn awdurdodi neu'r gofynion gwneud cais, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch chi wneud cais i awdurdodi proses ddadwenwyno gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch wedi’i reoleiddio.