Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar awdurdodi toddyddion echdynnu

Gofynion o ran awdurdodi toddyddion echdynnu (‘extraction solvents’) a’r hyn y mae angen i chi ei gyflwyno fel rhan o’ch cais.

Mae’r dudalen hon yn rhan o’r canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig.

Defnyddir toddyddion echdynnu wrth brosesu bwyd i helpu i ymdoddi a gwahanu rhannau o fwyd. Er enghraifft, gellir defnyddio toddyddion echdynnu penodol i gael gwared ar gaffein mewn coffi a the er mwyn cynhyrchu fersiynau heb gaffein. Mae'r toddydd echdynnu yn cael ei dynnu cyn i'r bwyd neu'r cynhwysyn terfynol gael ei ddefnyddio, ond gall gweddillion neu echdyniadau (derivatives) na ellir eu hosgoi yn dechnegol aros yn y bwyd. Dyma pam ei bod yn bwysig sicrhau bod toddyddion echdynnu yn ddiogel.  

Mae angen awdurdodi toddyddion echdynnu cyn y gellir eu rhoi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Dim ond 'toddyddion echdynnu a ganiateir', fel y'u diffinnir yn Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd 2013, y gellir eu defnyddio i gynhyrchu bwyd a'i roi ar y farchnad.

Y ddeddfwriaeth ddomestig sy'n llywodraethau’r defnydd o doddyddion echdynnu yn yr Alban yw Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Yr Alban) 2013.

Awdurdodiadau newydd

I wneud cais i awdurdodi toddydd echdynnu newydd ym Mhrydain Fawr, defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig. Gofynnir i chi ddefnyddio'r gwasanaeth i lanlwytho'r holl ddogfennau i gefnogi'ch cais, a fydd yn creu'ch coflen (dossier). Nid oes unrhyw ffi am y cais.

Nid oes unrhyw ganllawiau penodol ar gyfer ceisiadau am doddyddion echdynnu. Fodd bynnag, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer ychwanegion bwyd fel sy'n briodol.

Dylai eich cais esbonio'r angen technolegol am y toddydd echdynnu newydd, gan gynnwys y rheswm dros osod lefel weddilliol uchaf ar lefel benodol. Mae angen i chi hefyd ddangos na fyddai'r toddydd echdynnu newydd na'i ddefnydd yn peri pryder diogelwch.

Ceisiadau parhaus

Os gwnaethoch gyflwyno cais am doddydd echdynnu i'r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw'r broses asesu ar gyfer y cais hwn wedi'i chwblhau, bydd angen i chi ail-gyflwyno'ch cais i ni gan ddefnyddio ein gwasanaeth gwneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig. Wrth gyflwyno'r cais, gofynnir i chi ddarparu'ch rhif cwestiwn Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA).

Awdurdodiadau presennol

Os cafodd eich cynnyrch neu broses ei awdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE) cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn berthnasol, bydd yr awdurdodiad hwnnw'n parhau'n ddilys ym Mhrydain Fawr.

Faint o amser fydd fy nghais yn ei gymryd? 

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ceisiadau'n cymryd o leiaf blwyddyn.  

Bydd ansawdd y goflen a'r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio'n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym ni’n annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu cymaint o wybodaeth â phosibl i sicrhau y gallwn ni brosesu'ch cais mor effeithlon â phosibl. 

Cymorth

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y weithdrefn neu’r broses awdurdodi, gallwch chi gysylltu â ni drwy regulatedproducts@food.gov.uk

Gwneud cais am awdurdodiad

Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein nawr i wneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig.