Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

API data Sgoriau Hylendid Bwyd y Deyrnas Unedig

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 May 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 May 2018

Mae data Sgoriau Hylendid Bwyd y Deyrnas Unedig (DU) ar gael drwy ryngwyneb rhaglennu cymwysiadau (API) mewn fformat XML a JSON. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim ac nid oes gofyn cofrestru i’w ddefnyddio. Mae telerau ac amodau yn berthnasol, ac mae canllawiau ar gael ar gyfer datblygwyr.

Y data

Mae'r data yn rhoi'r sgôr hylendid bwyd neu'r canlyniad arolygu a roddir i fusnes ac yn adlewyrchu'r safonau hylendid bwyd a ganfyddir ar ddyddiad yr arolygiad neu'r ymweliad gan yr awdurdod lleol. Mae busnesau yn cynnwys bwytai, tafarndai, caffis, bwyd tecawê, gwestai a mannau eraill y mae defnyddwyr yn bwyta, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Mae'r data yn cael ei gadw ar ran yr awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan yng nghynlluniau canlynol yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

  • Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol (CSHB) yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr
  • Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd yn yr Alban

Mae'r data ond ar gael ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol sy'n cynnal unrhyw un o'r cynlluniau hyn.

Cael gafael ar y data

DATA: Cael gafael ar y data Sgoriau Hylendid Bwyd

Canllawiau API ar gyfer datblygwyr

Mae'r API yn caniatáu i ddatblygwyr gael mynediad at y data sgorio hylendid bwyd sylfaenol. Gall datblygwyr ymholi (query) ffeiliau XML i ddychwelyd y data geocodedig (darperir data hydred a lledred ar gyfer busnesau bwyd). Caiff y data XML eu diweddaru'n ddyddiol a gellir eu canfod isod, wedi'u yn ôl awdurdodau lleol. Gall data awdurdodau lleol Cymru fod yn allbwn Cymraeg neu Saesneg.

Gellir defnyddio'r API hefyd i ymholi'r system fyw (caiff y data eu diweddaru'n awtomatig wrth i awdurdodau lleol lwytho a chyhoeddi data) a dychwelyd data mewn fformatau XML a JSON.

Mae enghreifftiau o sut i ddefnyddio'r API a gwybodaeth am yr API i'w gweld yn y ddogfen ganllaw ar gyfer datblygwyr (Saesneg yn unig):

England, Northern Ireland and Wales

API V2 guidance for developers

Delweddau

Mae set o ddelweddau sgoriau hylendid ar gael i'w defnyddio gyda'r data API. Rhaid defnyddio'r delweddau yn unol â thelerau ac amodau Safonau Brand y Cynlluniau Sgorio yn unig

Enghreifftiau o ddelweddau sgoriau hylendid a'r meintiau sydd ar gael, y gellir eu defnyddio â’r data API.

Telerau ac amodau

Darllenwch delerau ac amodau defnyddio'r data a'r delweddau.