Mae Heather Hancock yn cadeirio ein Bwrdd ac mae ganddo rhwng saith ac un-ar-ddeg aelod arall. Maen nhw'n gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Mae rheolaeth yr Asiantaeth o ddydd i ddydd yn cael ei ddirprwyo i swyddogion drwy'r Prif Weithredwr
Mae'r Bwrdd yn cael ei benodi'n bennaf gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gydag un aelod yn cael ei benodi gan Weinidog Iechyd Cymru, ac un gan Weinidog Iechyd Gogledd Iwerddon. Mae gwybodaeth am sut mae'r Bwrdd yn gweithio i'w gweld yn y dogfennau Cod Ymddygiad a Rheolau Sefydlog isod:
COVID-19 a newidiadau i Gyfarfodydd Bwrdd yr ASB 2020
O ganlyniad i'r pandemig COVID-19, mae'r Cadeirydd a'r Prif Weithredwr wedi diweddaru trefniadau ar gyfer cyfarfodydd y Bwrdd. Bydd cyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes yn cael eu cynnal ar-lein nes diwedd 2020 ar y cynharaf.
Rydym ni'n parhau yn ymrwymedig i fod yn agored a thryloyw drwy ffrydio'r cyfarfodydd yn fyw.
Mewn ymdrech i osgoi cyfarfodydd rhithiol hir, byddwn ni'n cynnal mwy o gyfarfodydd, gyda phob digwyddiad yn para dim mwy na 2.5 awr.
Dyma'r amserlen arfaethedig y cyfarfodydd:
- 26 Awst - Bwrdd
- 16 Medi - Bwrdd
- 23 Medi - Pwyllgor Busnes
- 18 Tachwedd - Bwrdd
- 2 Rhagfyr - Bwrdd
- 8 Rhagfyr - Pwyllgor Busnes
Bydd rhagor o wybodaeth am agendâu ac amseroedd yn cael eu rhyddhau yn nes at ddyddiad pob cyfarfod.
Sut i gofrestru i wylio ar-lein
Gallwch wylio cyfarfodydd y Bwrdd i glywed ei drafodaethau am ein polisïau.
Mae'r Bwrdd yn cynnal ei gyfarfodydd yn gyhoeddus ac yn cyhoeddi agendâu, papurau a phenderfyniadau ar y cyfarfodydd hyn.
Bydd angen i chi gofrestru i wylio un o'r cyfarfodydd hyn ar-lein.
Cyflwyno cwestiwn
Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y trafodaethau a gynhelir ym mhob cyfarfod. Rydym ni'n awyddus i gael cwestiynau yn hytrach na sylwadau, a hoffwn eich cynghori i gadw ymholiadau mor gryno ac uniongyrchol â phosibl.
Gallwch gyflwyno cwestiynau o ddydd Llun 15 Mehefin tan 12:00 dydd Mawrth 16 Mehefin drwy eu hanfon at board.sec@food.gov.uk.
Bydd unrhyw gwestiynau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau, gan gynnwys ar ddydd Mercher 17 Mehefin, yn cael eu hateb drwy ohebiaeth yn unig.
Bydd cwestiynau ar gyfer yr ASB a ddaw i law cyn y dyddiad cau yn cael eu darllen allan ar ddechrau'r cyfarfod. Yna, bydd y Bwrdd a'r Weithrediaeth yn cael y cyfle i'w hateb fel rhan o'r trafodaethau perthnasol.
Bydd y rheiny sydd wedi cyflwyno cwestiynau i'r ASB yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod gwaith. Yna, bydd y cwestiynau a'r atebion yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan ar ôl cytuno ar gofnodion y cyfarfod.
Cyfarfodydd y Bwrdd
Dyddiad | Math o gyfarfod | Amser | Lleoliad |
---|---|---|---|
16 Medi 2020 | Bwrdd | 09:30 - 12:00 |
Zoom |
23 Medi 2020 | Pwyllgor Busnes | 10:30 - 12:30 | Zoom |
18 Tachwedd 2020 | Bwrdd | 09:30 - 12:00 | Zoom |
2 Rhagfyr 2020 | Bwrdd | 09:30 - 12:00 | Zoom |
8 Rhagfyr 2020 | Pwyllgor Busnes | 09:30 - 12:00 | Zoom |
10 Mawrth 2021 | Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes | Llundain | |
16 Mehefin 2021 | Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes | I'w gyhoeddi | |
15 Medi 2021 | Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes | I'w gyhoeddi | |
8 Rhagfyr 2021 | Y Bwrdd a'r Pwyllgor Busnes | Llundain |
Cyfarfodydd sydd wedi bod yn 2020 | |
---|---|
17 Mehefin 2020 | Papurau (Mehefin 2020) |
11 Mawrth 2020 | Papurau (Mawrth 2020) |
21 Ionawr 2020 | Cofnodion, papurau a fideo (Iomawr 2020) |
Cyfarfodydd yn 2019 | |
---|---|
18 Medi 2019 | Cofnodion, papurau a fideo (Medi 2019) |
19 Mehefin 2019 | Cofnodion, papurau a fideo (Mehefin 2019) |
8 Mai 2019 | Cofnodion, papurau a fideo (Mai 2019) |
13 Mawrth 2019 | Cofnodion, papurau a fideo (Mawrth 2019) |
Cyfarfodydd yn 2018 | |
---|---|
5 Rhagfyr 2018 | Cofnodion, papurau a fideo (Rhagfyr 2018) |
17 Hydref 2018 | Cofnodion, papurau a fideo (Hydref 2018) |
19 Medi 2018 | Cofnodion, papurau a fideo (Medi 2018) |
20 Mehefin 2018 | Cofnodion, papurau a fideo (Mehefin 2018) |
14 Mawrth 2018 | Cofnodion, paprau a fideo (Mawrth 2018) |
Cyfarfodydd yn 2017 | |
---|---|
6 Rhagfyr 2017 | Cofnodion, papurau a fideo (Rhagfyr 2017) |
20 Medi 2017 | Cofnodion, papurau a fideo (Medi 2017) |
21 Mehefin 2017 | Cofnodion, papurau a fideo (Mehefin 2017) |
15 Mawrth 2017 | Cofnodion, papurau a fideo (Mawrth 2017) |
Cyfarfodydd sydd wedi'u harchifo
Cyfarfodydd y Bwrdd 2013-17 a 2006-2013.
Aelodau
Dylid datgan yr holl fuddiannau personol neu fusnes a allai cael eu gweld eu bod yn dylanwadu ar eu barn. Mae diddordebau o'r fath yn cynnwys cymryd rhan yn y diwydiant amaeth, bwyd a diwydiannau cysylltiedig.
- Heather Hancock – Cadeirydd Bwrdd yr ASB
- Colm Mckenna - Aelod Bwrdd yr ASB ar gyfer Gogledd Iwerddon a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon
- David Brooks – Aelod Bwrdd
- Margaret Gilmore – Aelod Bwrdd
- Dr Ruth Hussey – Dirprwy Gadeirydd yr ASB
- Marke Rolfe – Aelod Bwrdd
- Timothy Riley – Aelod Bwrdd
- Peter Price – Aelod Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Presenoldeb y Bwrdd
Dyma gofnod o bresenoldeb Aelodau'r Bwrdd yng nghyfarfodydd y Bwrdd, y Pwyllgor Busnes ac yn ARAC (Saesneg yn unig).
Ymrwymiadau'r Bwrdd
Mae cofnod o ymrwymiadau Aelodau'r Bwrdd i'w gweld isod (Saesneg yn unig).
Treuliau'r Bwrdd
Mae manylion treuliau busnes Aelodau'r Bwrdd i'w gweld drwy'r ddolen isod.
Treuliau'r Bwrdd (Saesneg yn unig)