Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dr John Williams – aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Yn amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Cwblhaodd John ei BSc a'i PhD ym Mhrifysgol Bangor, cyn symud trwy Prifysgolion Aberystwyth, Hanover, Paris a Wrecsam i gyrraedd Prifysgol Caer sawl blwyddyn yn ddiweddarach. Ymddeolodd John o Gaer yn ddiweddar, lle bu’n Bennaeth yr Ysgol Feddygaeth, yn Ddeon Cysylltiol y Gyfadran ac yn dal Cadair mewn Biocemeg Gymhwysol. Mae hefyd wedi gwasanaethu ar Gyngor Llywodraethwyr Bwrdd Ysbyty Addysgu Warrington a Halton. 

Fel Pennaeth yr Ysgol Feddygol, roedd yn gyfrifol am hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol trwy nifer o gyrsiau achrededig ar lefel BSc ac MSc. Mae John hefyd wedi bod yn arholwr allanol ar gyfer amryw brifysgolion yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â rhai rhyngwladol (gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Manceinion, Prifysgol Plymouth, Prifysgol Coleg Llundain a Phrifysgol Aarhus).

Roedd John yn rhedeg labordy ymchwil yng Nghaer ac mae wedi cyhoeddi dros 50 o bapurau gwyddonol, 11 o benodau llyfrau ac wedi traddodi prif ddarlithoedd ledled y byd. Mae ymchwil John wedi ymdrin â meysydd fel dilysu bwyd, ond wedi canolbwyntio'n bennaf ar broteinau straen a deall sut maen nhw'n cael eu rheoleiddio ac yn dylanwadu ar brosesau afiechydon. Mae John wedi goruchwylio dros 30 o fyfyrwyr PhD yn llwyddiannus, ac mae gan lawer ohonynt bellach swyddi academaidd uwch ledled y byd.

Y tu allan i'r gwaith, mae John yn siarad Cymraeg ac yn byw yn Llangwm, ger y Bala. Mae'n briod gyda thri o blant ac mae ganddo dyddyn ychydig dros 20 erw. Roedd yn chwaraewr rygbi brwd, ac yn hyfforddwr cymwys, ond mae bellach wedi'i gyfyngu i ddilyn y gêm yng Nghlwb Rygbi Bala, a phryd bynnag y bo modd, wylio Cymru.

Buddiannau personol

Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol

  • Aelod o banel SÊR Cymru
  • Aelod o Banel Ysgoloriaethau PhD Iechyd Cymru

waith am ffi

  • Dim

Cyfranddaliadau

  • Dim

Clybiau a sefydliadau eraill

  • Aelod o Gymdeithas Imiwnoleg Prydain

  • Aelod Oes Cell Stress International

Buddiannau personol eraill

  • Dim

Buddiannau nad ydynt yn rhai personol

Cymrodoriaethau

  • Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch
  • Cymrawd y Sefydliad Gwyddor Biofeddygol
  • Cymrawd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol 

Cymorth anuniongyrchol

  • Dim

Ymddiriodolaethau

  • Dim

Tir ac eiddo

  • Dim

Penodiadau cyhoeddus eraill

  • Dim

Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol

  • Dim