Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid

Gwybodaeth am godau ymarfer a chanllawiau ymarfer cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr, a’r Fframwaith Cymyseddau ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

Pwysig

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd

Mae'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd yn rhoi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd. Mae angen i awdurdodau lleol ddilyn a gweithredu'r adrannau perthnasol o'r Cod sy'n berthnasol.

Cymru

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Cymru (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Gogledd Iwerddon) (Lawrlwytho fel PDF)

Lloegr

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Mae'r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid yn rhoi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu hystyried wrth orfodi cyfraith bwyd anifeiliaid. Mae angen i awdurdodau bwyd anifeiliaid ddilyn a gweithredu adrannau perthnasol y Cod sy'n berthnasol iddynt.

Cymru

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Northern Ireland

Lloegr

Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Canllawiau Ymarfer

Rydym ni’n cyhoeddi Canllawiau Ymarfer sy'n anstatudol sy’n cyd-fynd â'r Cod Ymarfer statudol. Mae'r rhain yn darparu cyngor cyffredinol ar y dull o orfodi'r gyfraith.

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd

Cymru

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru) (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Gogledd Iwerddon) (Lawrlwytho fel PDF)

Lloegr

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid

Cymru

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Cymru) (Lawrlwytho fel PDF)

Gogledd Iwerddon

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) (Lawrlwytho fel PDF)

Lloegr

Canllawiau Ymarfer Cyfraith Bwyd Anifeiliaid (Lloegr) (Lawrlwytho fel PDF)

Fframwaith Cymwyseddau

Gwybodaeth a sgiliau ar gyfer cyflenwi rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid swyddogol a gweithgareddau eraill yn effeithiol. Mae’r Fframwaith Cymwyseddau’n nodi'r cymwyseddau sy'n ofynnol ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd yn Cymru, Lloegr, a swyddogion cynghorau dosbarth yng Ngogledd Iwerddon, gan ymgymryd â rheolaethau bwyd swyddogol, gweithgareddau swyddogol eraill a gweithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â'r rhain. Mae'r Fframwaith Cymwyseddau ar gael ar lwyfan Hwyluso Cyfathrebu (Smarter Communications) yr ASB (angen mewngofnodi).

Er mwyn cynorthwyo gyda gweithredu'r Fframwaith Cymwyseddau, rydym wedi creu nifer o ddeunyddiau cymorth, sydd hefyd ar gael ar lwyfan Hwyluso Cyfathrebu yr ASB.