Christopher Brereton OBE – aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Yn amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.
Ymddeolodd Chris fel Prif Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Llywodraeth Cymru ym mis Hydref 2019.
Yn y cyfnod hwnnw, cefnogodd bolisi ar:
- Iechyd y cyhoedd amgylcheddol gan gynnwys diogelwch bwyd
- Diogelu iechyd
- Gwella iechyd
- Datblygiad deddfwriaethol iechyd y cyhoedd gan gynnwys Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru)
- Peryglon amgylcheddol, ymateb brys a chlefyd trosglwyddadwy
Datblygodd gyrfa Chris yn Lloegr i ddechrau, gan gymhwyso fel Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (EHO) yn Llundain ac ennill cymwysterau pellach mewn rheoli llygredd, iechyd a diogelwch a rheoli busnes (MBA). I ddechrau, gweithiodd fel EHO yn Essex gan gynnal gwaith arolygu a gorfodi iechyd yr amgylchedd, gan gynnwys ym maes diogelwch bwyd ac arolygu cig. Symudodd Chris i Gymru ym 1982 i ymuno â Chyngor Caerdydd fel EHO cyn mynd ymlaen i swyddi rheoli strategol ar lefel Cyfarwyddwr. Cyn ymuno â Llywodraeth Cymru yn 2006 roedd yn gyfrifol am gyflawni holl swyddogaethau Iechyd yr Amgylchedd a Diogelu'r Cyhoedd gan gynnwys Diogelwch Bwyd, Iechyd Porthladdoedd, Dadansoddwr Cyhoeddus, Clefydau Heintus, Trwyddedu, Rheoli Llygredd, Rheoli Plâu, Cynllunio Brys a Gwasanaethau Rheoli Strategol. Mae gan Chris dros 40 mlynedd o brofiad proffesiynol, ac am 30 o’r blynyddoedd hynny mae wedi bod yn gweithio ar lefel strategol.
Mae ganddo hanes sylweddol o ymgysylltu â'r cyhoedd, gweithwyr proffesiynol a gwleidyddion ar bob lefel er mwyn dylanwadu ar bolisi.
Buddiannau personol
Ymgyngoriaethau a/neu gyflogaeth uniongyrchol
-
Ymarferwr Iechyd yr Amgylchedd
Gwaith am ffi
- Dim
Cyfranddaliadau
- Dim
Clybiau a sefydliadau eraill
- Is-lywydd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd
- Aelod o Glwb ‘Triumph Sports Six’
Buddiannau personol eraill
- Dim
Buddiannau nad ydynt yn rhai personol
Cymrodoriaethau
- Dim
Cymorth anuniongyrchol
- Dim
Ymddiriedolaethau
- Dim
Tir ac eiddo
- Yn berchen ar ei gartref ei hun ym Mro Morgannwg
Penodiadau cyhoeddus eraill
- Dim
Buddiannau eraill nad ydynt yn rhai personol
- Dim
Hanes diwygio
Published: 10 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2022