Mary Quicke - Aelod o'r Bwrdd
Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.
Mae Mary Quicke yn rhedeg Quicke’s, busnes cynhyrchu caws ar y fferm sydd â throsiant o £4 miliwn. Hi yw'r 14eg cenhedlaeth ar y fferm. Nod y busnes yw cynhyrchu caws o safon fyd-eang, a gaiff ei werthu ar draws y byd, a rhagori mewn ffermio. Mae hi wedi rhedeg y busnes ers 1987. Mae'r caws wedi ennill sawl gwobr, er enghraifft 'Y Cheddar Gorau' yng Ngwobrau Caws Prydain mewn 3 blynedd allan o 7, ennill 'Caws Gorau Lloegr' yn 2015 a chipio tlysau'n gyson mewn cystadlaethau caws mawr ar draws y Deyrnas Unedig. Fe werthir y caws i safleoedd allweddol yn y Deyrnas Unedig, a chaiff dros un rhan o dair ei allforio, i'r Unol Daleithiau ac Awstralia yn bennaf.
Ar y fferm 1500 o aceri mae 600 o wartheg yn pori y tu allan am 10-11 mis. Hefyd, fe dyfir cnydau i fwydo'r gwartheg ac i'w gwerthu, ac i gefnogi bywyd gwyllt mewn cynlluniau amgylcheddol helaeth. Mae siop ar y fferm sy'n gwerthu caws a bwyd a gaiff ei gasglu'n lleol. Mae'r busnes yn cyflogi 34 o bobl yn Newton St Cyres, Exeter, Dyfnaint, Lloegr.
Mae Mary yn datblygu Academi Gaws gyda chydweithwyr yn niwydiant caws y Deyrnas Unedig. Mae hon yn system ardystio pedair lefel gan gynnwys elfen flasu sydd wedi'i ysbrydoli gan raglen 'Cynhyrchwr Caws Proffesiynol Ardystiedig' Cymdeithas Gaws America. Mae Mary hefyd yn Aelod Bwrdd y Sector Llaeth o AHDB, y corff ardollau sy'n cefnogi'r byd ffermio o'r ardollau a gesglir o gynhyrchion fferm. Mae hi'n rhagweithiol o ran hyrwyddo'r gofyniad am bobl â ganddynt wybodaeth wyddonol, galluoedd technegol ac ymarferoldeb i gefnogi gwyddorau cymhwysol ffermio a chynhyrchu caws.
Mae hi hefyd yn ysgrifennu blog misol, Mary’s Dairy Diary, ac yn ysgrifennu colofn ar gyfer Devon Life sydd wedi ennill gwobrau.
Cyflogaeth
Cyflogaeth, swydd neu broffesiwn gyda thâl.
- Wedi'i chyflogi gan Quicke’s Traditional Ltd, ffermwyr, gwneuthurwyr caws, pecynnwyr a manwerthwyr (Mary Quicke ac aelodau'r teulu)
Swyddi Cyfarwyddwr
Swyddi Cyfarwyddwr, gyda thâl neu’n ddi-dâl.
- Cyfarwyddwr, Quicke Traditional Ltd (Mary Quicke ac aelodau'r teulu)
- Cyfarwyddwr, Academy of Cheese
Incwm, cydnabyddiaeth neu fuddion eraill
Unrhyw fusnes, gweithgarwch proffesiynol neu gyhoeddus neu fuddiannau sy’n ffynhonnell incwm, cydnabyddiaeth neu sydd o fudd arall
- Aelod Bwrdd y Sector Cynhyrchion Llaeth, Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
Sefydliadau, clybiau neu gyrff
Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau
- Cadeirydd y Cyngor, Sefydliad Amaethyddiaeth Cyngor Dyfnaint
Cyfranddaliadau a buddsoddiadau
- Quicke’s Traditional Ltd (Mary Quicke ac aelodau'r teulu)