Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Tîm Ymchwilio ac Erlyn Troseddol

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd y Tîm Ymchwilio ac Erlyn Troseddol, pam mae angen data arnom, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni. 

Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Rydym ni'n cadw'r wybodaeth hon at ddibenion ymchwilio, canfod neu erlyn troseddau o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd, diogelwch bwyd a lles anifeiliaid.

Pa wybodaeth sydd gennym ni?

Mae'r wybodaeth bersonol sydd gennym ni'n cynnwys data personol a ddarperir gan unigolion a thrydydd partïon mewn perthynas â thystion a diffynyddion sy'n gysylltiedig ag ymchwiliadau ac erlyniadau troseddol a fydd yn cynnwys data personol yr unigolion hynny gan gynnwys enwau, cyfeiriadau, manylion cyswllt ac, os bydd achosion yn arwain at erlyn, gwiriadau cofnodion Cyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon?

Wrth arsylwi cydymffurfiaeth mewn perthynas â rheoliadau bwyd ac arfer ein pwerau i fonitro a gwerthuso risgiau byddwn ni’n nodi digwyddiadau penodol y mae angen ymchwilio iddynt yn brydlon er mwyn diogelu defnyddwyr. Mae rhagor o wybodaeth am ‘Fonitro a Gwerthuso Risgiau’ i’w gweld yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon naill ai gan unigolion eu hunain, gan drydydd partïon fel cyrff cyhoeddus eraill ac awdurdodau lleol, yn y Deyrnas Unedig (DU) ac yn rhyngwladol, neu drwy ein prosesau monitro a gwerthuso risg yn unol â phwerau eang a ddarperir gan y Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

Byddwn ni’n casglu pa bynnag wybodaeth sy'n angenrheidiol yn ystod yr ymchwiliadau hyn ar gyfer ein Tasg Gyhoeddus. Gwnawn hyn yn unol â'n rhwymedigaethau statudol o dan ddeddfwriaeth hylendid bwyd, diogelwch bwyd a lles anifeiliaid, am resymau o fudd sylweddol i'r cyhoedd ac o dan awdurdod atodlen 7 Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU.

Pan ddaw'n amlwg i ni, naill ai trwy ein hymchwiliadau ein hunain neu drwy wybodaeth a ddarperir i ni, yr amheuir gweithgarwch troseddol, bydd ein Huned Genedlaethol Troseddau Bwyd (yr Uned) yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol yn unol â Rhan 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018. Mae’r Uned yn swyddogaeth gorfodi cyfraith bwrpasol sy’n perthyn i’r ASB, ac felly mae ganddi bwerau eang wrth gasglu a defnyddio gwybodaeth. Mae'r Uned yn arwain ar droseddau bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn  gweithio'n agos gydag Uned Troseddau a Digwyddiadau Bwyd yr Alban sy’n rhan o Safonau Bwyd yr Alban. Gellir dod o hyd i wybodaeth am yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd ar ein gwefan.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Rydym ni’n prosesu'r wybodaeth i ganfod, ymchwilio ac erlyn troseddau.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo'ch gwybodaeth i awdurdodau cymwys eraill megis adrannau'r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus at ddibenion ymchwilio neu erlyn neu pan fo budd cyhoeddus sylweddol. 

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dim ond cyhyd ag y bo angen i gynnal ein swyddogaethau yr ydym ni’n cadw'ch gwybodaeth ac yn unol â'n hamserlen gadw.

Trosglwyddiadau rhyngwladol

Pan fydd gennym ni sail gyfreithiol i brosesu data personol at ddibenion gorfodi’r gyfraith, gallwn ni hefyd drosglwyddo data y tu allan i’r DU o dan ddarpariaethau Rhan 3 Deddf Diogelu Data 2018.

Hefyd, pan fyddwn ni’n trosglwyddo gwybodaeth i awdurdodau neu sefydliadau er budd sylweddol y cyhoedd, er enghraifft, ar atal neu ganfod troseddau, neu fonitro a gwerthuso risgiau i Ddiogelwch Bwyd, rydym ni’n ceisio cymryd camau priodol i ddiogelu eich gwybodaeth yn unol â GDPR y DU. Efallai y byddwn ni’n dibynnu ar y rhanddirymiadau (derogations) yn GDPR y DU lle bo angen at y diben hwn.

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran Dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.