Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Rhestrau Cofrestru a Chymeradwyo Bwyd Anifeiliaid

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd ein Rhestrau Cofrestru a Chymeradwyo Bwyd Anifeiliaid, pam fod angen y data arnom, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pa wybodaeth sydd gennym ni?

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym ni'n ei chadw amdanoch chi yn cynnwys enw a chyfeiriad eich busnes.

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon?

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn cael yr wybodaeth hon gan eich awdurdod lleol.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau statudol, o dan Erthygl 31 o Reoliad (CE) Rhif 882/2004 ar reolaethau swyddogol ac Erthyglau 19(1) ac 19(2) o Reoliad (CE) Rhif 183/2005 sy'n gosod gofynion ar gyfer hylendid bwyd anifeiliaid, i sicrhau bod manylion busnesau bwyd anifeiliaid ar gael i bobl sy'n holi ynghylch cofrestruiad a/neu statws cymeradwyo gweithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid. Mae manylion busnesau bwyd anifeiliaid cymeradwy i'w gweld ar wefan yr ASB. Mae'r rhestr o fusnesau bwyd anifeiliaid cofrestredig yn cael ei chynnal yn ganolog gan yr ASB, ond nid yw'n cael ei chyhoeddi.

Hefyd, mae'n bosibl y gallai'r wybodaeth hon gael ei rhannu ag asiantaethau eraill y llywodraeth sy'n gyfrifol am reolaethau bwyd anifeiliaid swyddogol, e.e. Tîm Arolygu ac Ymchwiliadau'r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon cyhyd â bod busnes wedi'i gofrestru a/neu ei gymeradwyo fel gweithredwr busnes bwyd anifeiliaid. Cedwir rhestrau hanesyddol o fusnesau cofrestredig a/neu wedi'u cymeradwyo am 6 blynedd.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny.


Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).