Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Rhybudd preifatrwydd – Rhestr Cynrychiolaeth Prydain Fawr ar Fwyd Anifeiliaid

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd mewn perthynas â Rhestr Cynrychiolaeth Prydain Fawr ar gyfer Bwyd Anifeiliaid, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Pam mae angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym ni'n ei chadw amdanoch chi yn cynnwys enw a chyfeiriad eich busnes. Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon gan eich awdurdod lleol.

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion cyflawni ein rhwymedigaethau statudol o dan reoliadau yr Undeb Ewropeaidd (UE) a ddargedwir (retained EU law). Mae'n ofynnol i'r manylion hyn gael eu cyhoeddi. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.


Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon cyhyd â bod busnes wedi'i gofrestru a/neu ei gymeradwyo fel Cynrychiolydd Prydain Fawr. Cedwir rhestrau hanesyddol o fusnesau cofrestredig a/neu rai wedi'u cymeradwyo am 6 blynedd.

Sut a ble rydym ni'n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ni ei rannu

Byddwn ni'n cadw gwybodaeth bersonol tan i chi ddatdanysgrifio o’r gwasanaeth hwn neu tan yr adeg y daw’r manylion cyswllt yr ydych chi wedi’u darparu yn annilys. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Trosglwyddiadau rhyngwladol


I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, ewch i adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i adran dinasyddion yr UE ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i adran Eich hawliau ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio'r cyfeiriad isod.