Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion penodi i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ac yn achos ymgeiswyr llwyddiannus, gwybodaeth gyswllt ar gyfer busnes cyffredinol mewn perthynas â'r gweinyddu sy'n gysylltiedig â'ch rôl yn y Pwyllgor.

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau swyddogol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. 

Gallai methu â darparu'r wybodaeth olygu bod nad yw eich cais yn cael ei brosesu yn briodol neu yn achos ymgeiswyr llwyddiannus, gall arwain at oedi wrth anfon papurau'r Pwyllgor. 

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu, gydag ymgeiswyr aflwyddiannus, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw am 5 mis ar ôl iddi ddod i law. Yn achos ymgeiswyr llwyddiannus, byddwn yn cadw'r wybodaeth am 6 mlynedd ar ôl i dymor eich penodiad ddod i ben.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i aelodau eraill o'r panel recriwtio nad ydynt yn gweithio i'r ASB. 

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).