Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Portffolio Tystiolaeth yr ASB gan gynnwys y Gronfa Dystiolaeth Strategol

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar ei Phortffolio Tystiolaeth a Chronfa Dystiolaeth Strategol, pam fod angen y data arnom ni, beth rydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. 

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn gallu gwerthuso eich cais a rhoi gwybod i chi am ganlyniad yr arfarniad. Yn achos ymgeiswyr llwyddiannus, mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion negodi contractau, dyfarnu contractau a rheoli contractau.
Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â'n dyletswyddau statudol ac wrth ymarfer yr awdurdodau swyddogol a freiniwyd yn yr ASB a pherfformiad tasgau a wneir er lles y cyhoedd. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Gallai methu â darparu'r wybodaeth olygu na allwn ni brosesu eich cais.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 7 mlynedd wedi iddi ddod i law.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gellir trosglwyddo'ch gwybodaeth i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), yr Adran Iechyd, yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau yn ogystal ag adrannau eraill y Llywodraeth. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).