Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – cysylltiadau awdurdod lleol

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd cysylltiadau awdurdodau lleol, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni? 

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn cysylltu ag awdurdodau lleol fel Awdurdodau Cymwys am ddiogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae gennym ni fanylion cyswllt ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol, fel manylion y swyddog bwyd arweiniol, swyddog enwebedig ar gyfer bwydydd a fewnforir, gwybodaeth gyswllt gwasanaeth y tu allan i oriau a chyfeiriadau e-byst gorfodi fel sy'n ofynnol gan y Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. 

Gwnawn hyn yn unol â'n dyletswyddau statudol i gydymffurfio â'n rhwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 a'r Codau Ymarfer Cyfraith Bwyd a Bwyd Anifeiliaid fel sy'n ofynnol dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a Gorchymyn Diogelwch Bwyd (Gogledd Iwerddon) 1991. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. 
 

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon nes bydd manylion cyswllt y swyddog awdurdod lleol yn newid ac am ddwy flynedd wedi hynny.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i adrannau eraill y llywodraeth. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd. 

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).