Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Cofrestru fel daliad cynhyrchu llaeth

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd ar gyfer cofrestru fel daliad cynhyrchu llaeth, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddibenion cofrestru daliadau cynhyrchu llaeth. Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chyflawni ein dyletswyddau statudol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. 

Mae darparu'r wybodaeth hon yn ofyniad statudol, a gallai methu â darparu'r wybodaeth arwain at beidio â chydymffurfio â Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Cymru) 2006. 

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon drwy gydol cyfnod y cofrestriad ac am 10 mlynedd ar ôl i gofrestriad o'r fath ddod i ben.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, efallai y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i adrannau eraill y llywodraeth. Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Cyhoeddir enwau a chyfeiriadau sefydliadau llaeth cofrestredig ar y wefan Dod o hyd i ddata agored a gwefan Data Agored yr Asiantaeth Safonau Bwyd.  

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).