Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Cofnodion o raglenni ymchwil G01, G02 a G03

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd ar gyfer cofnodion o raglenni ymchwil G01, G02 a G03, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn a wnawn ni gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Roedd gofyn i ni gasglu'r wybodaeth hon (yn benodol, enw, enw a chyfeiriad y sefydliad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost) at ddibenion asesu ceisiadau am gyllid ymchwil a rheoli prosiectau ymchwil a gomisiynwyd o dan y rhaglenni ymchwil hyn.

Er mwyn rheoli prosiectau a gomisiynwyd dan raglenni ymchwil G01, G02 a G03, rydym ni wedi casglu gwybodaeth (yn benodol enw, enw a chyfeiriad y sefydliad a chyfeiriad e-bost). Cafodd hyn ei gynnwys yn rhai o'r adroddiadau prosiect terfynol a gedwir yn llyfrgell adroddiadau ymchwil yr ASB, gyda'ch caniatâd chi. 

Cafodd ei ddefnyddio hefyd er mwyn rheoli ceisiadau mynediad data dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Rydych chi wedi cytuno i ddarparu gwybodaeth er mwyn rheoli'ch ceisiadau ac unrhyw gyllid ymchwil neu gontract a ddyfernir gan yr ASB, ond fe allwch chi dynnu'ch caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg trwy gysylltu â ni.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. 

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, gallai eich gwybodaeth gael ei throsglwyddo i adrannau perthnasol eraill sydd â diddordeb mewn materion GM (genetically modified neu wedi'i addasu'n enetig).

Eich hawliau 

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).