Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF)

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn rhoi gwybod am gyfarfodydd a busnes cyffredinol y Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd Anifeiliaid (ACAF) i randdeiliaid unigol.  Hefyd o ran penodiadau i'r Pwyllgor ac yn achos ymgeiswyr llwyddiannus, manylion cyswllt ar gyfer busnes cyffredinol mewn perthynas â gweinyddu eich rôl ar y Pwyllgor.

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau swyddogol. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.

Gallai methu â darparu'r wybodaeth hon olygu nad ydym yn gallu darparu'r manylion priodol a chywir, neu ar gyfer penodiadau, nad yw eich cais yn cael ei brosesu yn briodol, neu yn achos ymgeiswyr llwyddiannus, bydd oedi wrth anfon papurau'r Pwyllgor.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu, gydag ymgeiswyr aflwyddiannus, bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw am 18 mis ar ôl iddi ddod i law. Yn achos ymgeiswyr llwyddiannus, byddwn yn cadw'r wybodaeth hyd at 12 mis ar ôl i dymor eich penodiad ddod i ben. Yn achos rhanddeiliaid, byddwn yn cadw'r wybodaeth hyd nes eich bod yn rhoi gwybod nad ydych am gael gwybodaeth bellach am faterion sy'n ymwneud â'r ACAF.

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i aelodau eraill o'r panel recriwtio nad ydynt yn gweithio i'r ASB.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB yw Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch. Gallwch gysylltu drwy anfon e-bost at: informationmanagement@food.gov.uk