Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Adroddiadau eithriad ar gyfer Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy yr Asiantaeth

Gwybodaeth am y polisi preifatrwydd yn ymwneud ag adroddiadau eithriad ar gyfer Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Yr ASB yw 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni. 

Pa wybodaeth sydd gennym ni 

Mae'r wybodaeth bersonol yr ydym ni'n ei chadw amdanoch chi yn cynnwys enw a chyfeiriad eich busnes. 

O ble'r ydym ni'n cael yr wybodaeth hon 

Mae'r ASB yn cael yr wybodaeth hon gan eich awdurdod lleol. 

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni 

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon er mwyn derbyn gwybodaeth am arolygiadau awdurdodau lleol o aelodau Cynlluniau Sicrwydd Cymeradwy yr ASB lle nodwyd anghysondebau arwyddocaol. Yna caiff y manylion hyn eu rhannu gyda'r Cynllun Sicrwydd Cymeradwy y mae eich busnes yn aelod ohono. Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau swyddogol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.  

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth 

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n cadw'r wybodaeth am 6 mlynedd wedi iddi ddod i law. 

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. 

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, dim ond i berchennog y Cynllun Sicrwydd Cymeradwy perthnasol y mae eich busnes yn aelod ohono y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo.  

Eich hawliau 

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater. 

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).